
Click here for our English language site
Diolch am ymweld a gwefan Ty Thai. Ty Thai yw bwyty Thai cyntaf Gorllewin Cymru. Yr ydym yn paratoi ac yn cynnig y bwyd Thai gorau mewn awyrgylch groesawgar. Dim ond y cynhwysion gorau sy'n cael eu defnyddio i baratoi'r bwyd, ac mae pob dim yn ffres. Mae Ty Thai yn agor o hwyr y prynhawn ar nosweithiau Llun i Sadwrn. Byddwn ar gau or nosweithiau Sul onibai am benwythnosau Gwyl y Banc. Defnyddiwch y botymau ar y chwith i lywio o amgylch y we-fan. Gallwch ddarllen esboniad ar beth sy'n gwneud bwyd Thai yn wahanol i fwydydd eraill. Neu efallai edrych ar y fwydlen neu'r rhestr gwinoedd. Beth am adael neges ar y llyfr ymwelwyr neu ddarllen negeseuon yr ymwelwyr eraill. A chofiwch gysylltu a ni er mwyn sicrhau ymweliad a'r bwyty, a chael bwrdd da !
Cartref Ty Thai yw pentref glan mor Cei Newydd yng Ngheredigion. Mae Cei Newydd rhyw 4 milltir i'r Gorllewin ar yr A487 yn Synod Inn, sef heol yr arfordir rhwng trefi Aberteifi ac Aberystwyth. Wedi cyrraedd Cei Newydd, ewch lawr at y mor ac fe welwch Ty Thai uwchben siop y 'Box Of Delights'.
Wrth i chi gyrraedd Ty Thai, cewch groeso gan un o'n staff cyfeillgar yn y dderbynfa. Gwnewch eich hunain yn gartrefol, cymerwch sedd ac efallai ymlacio gyda diod wrth i chi edrych drwy'r fwydlen.
Mae dau fan i fwyta y tu allan gan y bwyty. Mae'r olygfa o'r balconi yn y blaen yn ardderchog yn edrych allan dros fae Ceredigion tuag at Eryri
 |